Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Medi 2020
Amser:
09.46 -
11.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6486
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Russell George AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Hefin David AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Norman Baker, Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well David Beer, Transport Focus Christine Boston, Transform Cymru Ryland Jones, Sustrans Cymru Glenn Lyons, Prifysgol Gorllewin Lloegr Nick Richardson, Mott Macdonald |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol parthed: y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3 Covid-19: Adfer Trafnidiaeth - Grwpiau Eiriolaeth a Buddiannau Teithwyr
3.1 Atebodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Cymru, Transform Cymru, Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sustrans Cymru, Norman Baker, Cynghorydd y Prif Swyddog Gweithredol, Yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth Well a David Beer, Uwch Reolwr Cymru, Ffocws ar Drafnidiaeth, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd Norman Baker i anfon dogfen Covid-19 Recovery Yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth at y Pwyllgor.
4 Covid-19: Adfer Trafnidiaeth - Safbwyntiau Academaidd a Diwydiannol
4.1 Atebodd Yr Athro Glenn Lyons, Athro Symudedd y Dyfodol – Prifysgol Gorllewin Lloegr a Nick Richardson, Cyfarwyddwr Technegol (Trafnidiaeth) - Mott Macdonald a Chadeirydd Grŵp Polisi Bysiau a Choetsys y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
6 Preifat
6.1 Bu’r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.